Interniaeth Gweithrediadau Coedwigaeth a Rheoli Tir

£30,008 - £32,107

Natural Resources Wales

Bangor

Chwefror 1, 2026

Internship / Placement

Disgrifiad o'r Cwmni

Y rôl

Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnig dau gyfle ar gyfer lleoliad â thâl o fis Medi 2026 ymlaen. Mae’r rhain yn benodol ar gyfer myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliad canol blwyddyn fel rhan o gwrs sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd a chynaliadwyedd, megis coedwigaeth neu reoli coedwigoedd, rheoli a chadwraeth coetiroedd, gwyddor amgylcheddol, rheolaeth amgylcheddol, daearyddiaeth, neu bwnc cysylltiedig o sefydliad addysg uwch.

Os byddwch yn llwyddiannus, gallech gael eich penodi i’r naill ranbarth neu’r llall. O ganlyniad, gallech fod yn gweithio yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy’n cwmpasu Parc Cenedlaethol hardd Eryri, neu yng nghanolbarth Cymru sy’n cwmpasu’r ardal o Aberystwyth i’r Fenni ar draws Mynyddoedd Cambria a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Ni waeth pa dîm yr ydych yn ymuno ag ef, mae’r cyfle hwn yn rhoi’r modd i chi weithio ochr yn ochr â’n timau proffesiynol sy’n gyfrifol am reoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a’n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol. Bydd y lleoliad gwaith hwn yn eich cyflwyno i ystod amrywiol o gyfleoedd ac arferion rheoli tir. Gallai hyn amrywio o weithrediadau cynaeafu a sefydlu, archwiliadau atebolrwydd tir cyfreithiol i adfer henebion neu reoli rhywogaethau penodol ar warchodfa natur.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â brwdfrydedd ac angerdd dros goedwigaeth a rheoli tir a all ddangos cymhelliant i ddysgu a chyflawni ei waith wrth weithio ochr yn ochr â’n timau a chwsmeriaid a chontractwyr ehangach.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi dull gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i un o swyddfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru o fewn yr ardal / lleoliad uchod, a chytunir ar batrwm gweithio hybrid addas adeg eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â  Michael Cresswell at Michael.Cresswell@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau.

Amdanom ni

Rydym wedi bod yn cynnal ein rhaglen lleoliadau â thâl mewn Gweithrediadau Coedwigaeth a Rheoli Tir ers 2020. Mae’n rhywbeth yr ydym yn hynod falch ohono. Rydym wedi croesawu myfyrwyr o bob cwr o’r DU o gefndiroedd amrywiol ac o nifer o sefydliadau addysgol. Maent wedi mynd yn ôl wedyn i gwblhau eu hastudiaethau ac maent bellach yn gweithio ar draws y sector.

Bydd y rhaglen hon yn eich lleoli o fewn un o’n timau Rheoli Tir a Choedwigoedd Gweithredol. Bydd y flwyddyn yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth wrth ennill profiad gwerthfawr o’r ffordd yr ydym yn gweithredu. Ond yn bwysicach fyth, byddwch yn cael profiadau y gallwch eu defnyddio i gychwyn eich gyrfa ym maes coedwigaeth neu reoli tir. Gydol eich blwyddyn, byddwch yn cysgodi staff profiadol ac yn cael eich mentora ganddynt, yn cael eich hyfforddi, yn datblygu ac yn cael cyfleoedd i arwain prosiectau penodol a mynd allan gyda thimau eraill ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru. 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Cynorthwyo’r gwaith o gyflawni cynlluniau gwaith, a grëir gan y tîm, sy’n cyfrannu at y gwaith o gyflawni cynlluniau busnes.
  • Cynorthwyo i fonitro arolygon a chasglu data.
  • Cadw cofnodion a gwybodaeth yn unol â rheoliadau/deddfwriaeth a safonau y cytunir arnynt.
  • Cymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm.
  • Cymryd rhan mewn cyfarfodydd allanol gydag aelodau eraill o’r tîm.
  • Rhyngweithio gyda chyfoedion yn Cyfoeth Naturiol Cymru i ddeall a chyflawni fel tîm.
  • Cyfrannu at gyflawni rhaglenni gwaith yn unol â’r cyfrifoldeb a ddirprwywyd i’r timau.
  • Gwaith arall yn ôl cyfarwyddyd y rheolwr llinell.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.

 

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau

Bydd ceisiadau i’r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y meini prawf canlynol wrth lunio rhestr fer a chyfweld. Defnyddiwch y dull STAR i ddangos sut rydych chi’n bodloni’r gofynion a amlinellir isod yn y cais am swydd.

  1. Byddwch yn ymgymryd â gradd israddedig ar hyn o bryd naill ai mewn disgyblaeth coedwigaeth neu reoli tir gan sefydliad addysg uwch. Rhaid bod eich gradd israddedig yn cynnwys lleoliad canol blwyddyn (hanfodol).
  2. Dealltwriaeth dda o weithio mewn disgyblaethau rheoli coedwigoedd a thir, gan gynnwys rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy.
  3. Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid. Y gallu i feithrin perthynas waith effeithiol â chydweithwyr a phartneriaid.
  4. Sgiliau TGCh da (hanfodol).
  5. Trwydded yrru lawn y DU (hanfodol).

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol: Lefel A1 – Lefel Mynediad

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Manteision gweithio i ni

  • gweithio ystwyth a hyblyg
  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni’r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i’n staff ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i’w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Interniaeth Gweithrediadau Coedwigaeth a Rheoli Tir