
Cartrefi Cymunedol Bron Afon
Trydydd Sector / Tai
Cwmbrân

Pwy ydym ni?
Rydym yn sefydliad cartrefi cymdeithasol, sy’n eiddo i, ac yn cael ei redeg gan, gydweithwyr ac aelodau sy’n angerddol am wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl. Rydym yma i wella ansawdd bywyd a chyfleoedd bywyd pobl sy’n byw yn Nhorfaen a chymunedau cyfagos, gyda ffocws penodol ar gefnogi pobl sy’n wynebu anfantais ac / neu wedi eu gwrthod.
Rydym yn gymaint mwy na darparwr tai yn unig: rydym yn helpu i greu cyfleoedd cyflogaeth a datblygu i bobl leol, ac yn gweithio ar y cyd ag ystod eang o bartneriaid i helpu i leihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, gwella iechyd a lles a gwarchod yr amgylchedd.
Ein Gwerthoedd
Mae ein gwerthoedd yn bwysig i ni. Maent yn dylanwadu ar sut rydym yn gweithio ac fe’u datblygwyd gyda’n haelodau, cydweithwyr a phartneriaid. Byddwch yn sylwi arnynt pryd bynnag y byddwch yn ymwneud â ni. Maent yn pwysleisio – Parchu, Ymgysylltu, Uchelgais, Gwrando.
Swyddi gyda Bron Afon
Ein nod yw darparu profiadau gwych i gwsmeriaid drwy wneud Bron Afon yn lle gwych i weithio ac rydym bob amser yn chwilio am bobl talentog i ymuno â ni.
Ar hyn o bryd rydym yn cynnal cynllun peilot chwe mis o weithio wythnos 4 diwrnod a ddechreuodd ddydd Llun 30 Medi. Mae’r wythnos 4 diwrnod yn seiliedig ar egwyddor o 100 – 80 – 100: cyflawni 100% o’r gwaith, mewn 80% o’r amser, am 100% o’r cyflog. Os byddwch yn ymuno â ni yn ystod y peilot byddwch yn cymryd rhan.
Rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth a’n nod yw creu amgylchedd cefnogol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu bod yn nhw eu hunain. Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bob person â chymwysterau addas waeth beth fo’u hil, rhyw, anabledd, ailbennu / mynegiant rhywedd, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu oedran.
Mae Bron Afon yn sefydliad cynhwysol a chefnogol
Rydym eisiau denu’r bobl orau oll o’r gronfa dalent ehangaf a’n nod yw creu amgylchedd cynhwysol a chefnogol lle mae pawb o bob cefndir yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn gallu bod yn nhw eu hunain ac yn gallu perfformio ar eu gorau.
Rydym am i chi deimlo eich bod yn cael eich cynnwys a’ch cefnogi ar bob cam o’ch taith gyda ni. Mae hyn yn dechrau gyda’r broses ymgeisio. Rhowch alwad i ni ar unrhyw adeg i gael sgwrs am sut y gallwn eich cefnogi.
Mae gan ein gweithwyr fynediad at fuddion gwych gan gynnwys:
- Gweithio hyblyg sy’n eich galluogi i weithio lle mae angen i chi weithio
- Mae’r Rhaglen Cymorth i Weithwyr yn darparu cyngor cwbl gyfrinachol, gwybodaeth ymarferol, cymorth a chwnsela ar ystod eang o faterion personol a materion cysylltiedig â gwaith
- Mae cynllun iechyd cynhwysfawr yn caniatáu ichi hawlio rhai o gostau nifer o gostau iechyd arferol yn ôl – o archwiliadau deintyddol a phrofion llygaid i ffisiotherapi
- Hawl gwyliau blynyddol hael sy’n codi gyda gwasanaeth – gan gynnwys gwyliau banc a chyfnod cau’r Nadolig
- Mynediad i Gynllun Pensiwn Tai Cymdeithasol (SHPS)
- Parcio am ddim
- Cyfleoedd dysgu a datblygiad personol sy’n cynnwys mynediad i gyrsiau hyfforddi achrededig ein cynllun hyfforddi corfforaethol ac aelodaeth broffesiynol â thâl y telir amdani
- Tâl mamolaeth/tadolaeth a mabwysiadu uwch
- Trwy ein cynllun beicio i’r gwaith gallwch fenthyg hyd at £1500 ar gyfer beic newydd sgleiniog!
- Cynllun tâl salwch galwedigaethol – lle bydd y tâl yn unol â’ch hawl cytundebol i dâl salwch uwch
- Digwyddiadau cymdeithasol a gynhelir gan ein Clwb Cymdeithasol Staff
- Te a choffi am ddim