Lleoliad Graddedig, Syrfëwr Arbenigol

£33,755 - £36,693

Natural Resources Wales

Llandovery

Chwefror 1, 2026

Graduate Scheme

Disgrifiad o'r Cwmni

Y rôl

Mae hon yn rôl lleoliad gwaith ar gyfer unigolion sydd wedi ennill cymhwyster ôl-raddedig mewn cymhwyster achrededig Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) yn ddiweddar (o fewn y 18 mis diwethaf) mewn rheoli ystadau gwledig neu ddisgyblaeth debyg.

Bydd y rôl yn darparu cefnogaeth i CNC ar draws Rheoli Tir, Gweithrediadau Coedwigaeth a thimau gweithredol ehangach. Pwrpas y rhaglen hyfforddeion graddedig yw datblygu’r profiad ymarferol, yr wybodaeth a’r sgiliau i sefydlu eich gyrfa yn y sector rheoli tir.

Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Uwch-syrfëwr Arbenigol, Arweinydd y Tîm Rheoli Tir a’u cynghorwyr arbenigol, ac yn cael eich mentora ganddynt.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi dull gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i un o swyddfeydd CNC o fewn yr ardal / lleoliad uchod, a chytunir ar batrwm gweithio hybrid addas adeg eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Ieuan Williams at Ieuan.Williams@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Bydd cyfweliadau’n bod wyneb yn wyneb (bydd manylion amser a lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw)

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau.

Amdanom ni

Dyma gyfle i ymuno â thîm Rheoli Tir CNC ar gyfer Canolbarth y De gan weithio’n bennaf o Llanymddyfri. Mae ardal y tîm yn ymestyn o Aberteifi i Aberystwyth yn y gorllewin a draw i’r Gelli Gandryll yn y dwyrain. Mae’r ardal yn cynnwys y rhan fwyaf o Geredigion a De Powys, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae ystad Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghanolbarth y De yn amrywio o hyd at 30,000 hectar o flociau coedwig cynhyrchiol i Warchodfeydd Natur Cenedlaethol sy’n cwmpasu dros 3,000 hectar i nifer o asedau rheoli perygl llifogydd, ynghyd ag asedau gwledig amrywiol eraill.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Rhoi eich hyfforddiant proffesiynol ar waith mewn sefyllfaoedd byd go iawn.
  • Meithrin perthnasoedd gwaith da yn fewnol ac yn allanol, gan gymryd rhan mewn cyfarfodydd allanol gydag aelodau eraill o’r tîm.
  • Cyflawni cynlluniau gwaith, a chymryd camau gweithredu y cytunwyd arnynt er mwyn cyfrannu at gynlluniau busnes.
  • Cyfranogi yng ngrwpiau technegol CNC.
  • Cyfrannu at gyfrifoldeb dirprwyedig y timau ar gyfer cyflawni rhaglenni gwaith megis:
    • Cynorthwyo i reoli a goruchwylio contractau gweithredol.
    • Cynorthwyo i reoli materion ariannol, cyfreithiol a gweithredol sy’n deillio o reoli tir ac asedau.
    • Cynnal a chadw data y System Gwybodaeth Ddaearyddol.
    • Cynnal ymweliadau â safleoedd ac arolygon.
    • Cynorthwyo i greu dogfennau o natur dechnegol.
    • Cynllunio a chyflawni gwaith sy’n gysylltiedig â rheoliadau coedwigaeth.
  • Bod yn gyfrifol am gyflawni agweddau dirprwyedig ar raglenni yn uniongyrchol.
  • Rhyngweithio gyda chymheiriaid yn Cyfoeth Naturiol Cymru i hyrwyddo arferion y diwydiant a’r pwnc arbenigol mewn ffordd gyson.
  • Cysgodi aelodau o’r staff uwch, o fewn a thu allan i’ch tîm uniongyrchol, er mwyn deall ehangder y gwaith a wneir gan Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau 

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau

Bydd ceisiadau i’r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y meini prawf canlynol wrth lunio rhestr fer a chyfweld. Defnyddiwch y dull STAR i ddangos sut rydych chi’n bodloni’r gofynion a amlinellir isod yn y cais am swydd.

  1. Gradd (wedi’i gwblhau o fewn 18 mis i’r hysbyseb swydd) mewn cymhwyster achrededig Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig mewn cwrs sy’n gysylltiedig â rheoli ystadau gwledig (hanfodol).
  2. Dealltwriaeth dda o weithio mewn disgyblaethau rheoli tir gwledig.
  3. Sgiliau da ar lafar ac yn ysgrifenedig a’r gallu i gyfathrebu’n hyderus, ynghyd â sgiliau gofal cwsmer rhagorol.
  4. Sgiliau rhyngbersonol da a’r gallu i weithio dan bwysau gan ddefnyddio’ch menter eich hun er mwyn bodloni terfynau amser tynn.
  5. Sgiliau TGCh cryf, gan gynnwys hyfedredd mewn cymwysiadau Microsoft Office megis Word, Excel, Outlook, a PowerPoint.
  6. Trwydded yrru lawn y DU

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol: Lefel A1 – Lefel Mynediad

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Manteision gweithio i ni

  • gweithio ystwyth a hyblyg
  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni’r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i’n staff ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i’w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Lleoliad Graddedig, Syrfëwr Arbenigol