Lleoliad Graddedigion, Gweithrediadau Coedwigaeth a Rheoli Tir

£33,755 - £36,693

Natural Resources Wales

Welshpool

Chwefror 1, 2026

Graduate Scheme

Disgrifiad o'r Cwmni

Y rôl

Mae hon yn rôl lleoliad i raddedigion ar gyfer unigolion sydd wedi ennill cymhwyster israddedig neu feistr mewn cwrs sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd yn ddiweddar (o fewn 18 mis i’r hysbyseb swydd), megis coedwigaeth neu reoli coedwigoedd, rheoli a chadwraeth coetiroedd, gwyddor amgylcheddol, rheolaeth amgylcheddol, daearyddiaeth, neu bwnc cysylltiedig.

Bydd y rôl yn darparu cymorth i Cyfoeth Naturiol Cymru ar draws Gweithrediadau Coedwigaeth, Rheoli Tir, Stiwardiaeth Tir a thimau gweithredol ehangach. Diben y rôl yw datblygu’r profiad ymarferol, yr wybodaeth a’r sgiliau i sefydlu eich gyrfa yn y sector coedwigaeth a rheoli tir.

Byddwch yn gweithio’n agos gyda ac yn cael eich mentora gan arweinwyr tîm Gweithrediadau Coedwigaeth a Rheoli Tir a’u cynghorwyr arbenigol.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi dull gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru yn y lleoliad uchod, a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno adeg eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Miriam Jones-Walters at

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad y rownd gyntaf, a fydd yn cael ei gynnal drwy gyfrwng Microsoft Teams yn yr wythnos sy’n dechrau ar 23 Chwefror.

Bydd rownd derfynol o gyfweliadau yn dilyn yr wythnos sy’n dechrau ar 16 Mawrth. Byddant yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb (rhennir manylion yr amser a’r lleoliad ymlaen llaw)

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau.

Amdanom ni

Mae’r timau Gweithrediadau Coedwigaeth a Rheoli Tir yn gyfrifol am reoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn gynaliadwy. Rydym yn ymarfer coedwigaeth amlswyddogaethol, gan weithio gyda thimau eraill ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni gwaith cynhyrchu pren cynaliadwy o fewn gweledigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru o fyd natur a phobl yn ffynnu gyda’n gilydd. Un diwrnod, efallai y byddwch chi’n monitro blychau bele, a’r diwrnod nesaf contract cynaeafu.

Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â’r swyddogion cymorth technegol, swyddogion rheoli contractau, uwch-swyddogion a’r arweinydd tîm i gyfrannu at y rhaglenni gwaith prysur a gyflwynwn. 

Mae’r rôl wedi’i lleoli yn y Trallwng ond mae’r timau y byddwch chi’n gweithio gyda nhw yn cwmpasu ardal eang, gan ymestyn i Goedwig Dyfnant yn y Gogledd i Goedwigoedd Maesyfed a Llanandras i’r De, coedwig Tal-y-bont yn y Gorllewin, i flociau’r Trallwng yn y Dwyrain. Bydd eich gwaith yn canolbwyntio ar flociau penodol o goedwig, ond bydd disgwyl i chi deithio ar draws yr ardal gyfan.

 Drwy gydol cyfnod y lleoliad byddwch yn cael y cyfle i weithio gyda thimau eraill ar draws Coedwigaeth Cymru sy’n ymwneud ag agweddau eraill ar goedwigaeth a rheoli tir.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi dull gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru yn y lleoliad uchod, a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno adeg eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Rhoi eich hyfforddiant proffesiynol ar waith mewn sefyllfaoedd byd go iawn.
  • Datblygu cydberthnasau gweithio da yn fewnol ac yn allanol.
  • Cyflawni cynlluniau gwaith, a chymryd camau gweithredu y cytunwyd arnynt er mwyn cyfrannu at gynlluniau busnes.
  • Cyfranogi yng ngrwpiau technegol Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Cyfrannu at gyfrifoldeb dirprwyedig y timau ar gyfer cyflawni rhaglenni gwaith megis:
    • Cynorthwyo i reoli a goruchwylio contractau gweithredol.
    • Casglu gwybodaeth am goedwigaeth a chadwraeth.
    • Cynnal a chadw data y system gwybodaeth ddaearyddol.
    • Cynnal arolygon a gwerthusiadau safle.
    • Cynorthwyo i greu dogfennau o natur dechnegol.
    • Cynllunio a chyflawni gwaith sy’n gysylltiedig â rheoliadau coedwigaeth.
  • Bod yn gyfrifol am gyflawni agweddau dirprwyedig ar raglenni yn uniongyrchol.
  • Rhyngweithio gyda chymheiriaid yn Cyfoeth Naturiol Cymru i hyrwyddo arferion y diwydiant a’r pwnc arbenigol mewn ffordd gyson.
  • Cysgodi aelodau o’r staff uwch, o fewn a thu allan i’ch tîm uniongyrchol, er mwyn deall ehangder y gwaith a wneir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. 
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau

Bydd ceisiadau i’r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y meini prawf canlynol wrth lunio rhestr fer a chyfweld. Defnyddiwch y dull STAR i ddangos sut rydych chi’n bodloni’r gofynion a amlinellir isod yn y cais am swydd.

  1. Cymhwyster gradd (wedi’i gwblhau o fewn 18 mis i’r hysbyseb swydd) mewn cwrs sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd a chynaliadwyedd, megis coedwigaeth neu reoli coedwigoedd, rheoli a chadwraeth coetiroedd, gwyddor amgylcheddol, rheolaeth amgylcheddol, daearyddiaeth, neu bwnc cysylltiedig (hanfodol).
  2. Dealltwriaeth dda o weithio mewn disgyblaethau rheoli tir a choedwigaeth, gan gynnwys rheoli coedwigoedd cynaliadwy.
  3. Sgiliau da ar lafar ac yn ysgrifenedig, a’r gallu i gyfathrebu’n hyderus, ynghyd â sgiliau rhagorol o ran gwasanaeth cwsmeriaid.
  4. Sgiliau rhyngbersonol da a’r gallu i weithio dan bwysau gan ddefnyddio’ch menter eich hun er mwyn bodloni terfynau amser tynn.
  5. Sgiliau TGCh cryf, gan gynnwys hyfedredd mewn cymwysiadau Microsoft Office megis Word, Excel, Outlook a PowerPoint.
  6. Trwydded yrru lawn y DU (hanfodol).

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol: Lefel A1 – Lefel Mynediad

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Manteision gweithio i ni

  • gweithio ystwyth a hyblyg
  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni’r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i’n staff ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i’w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Lleoliad Graddedigion, Gweithrediadau Coedwigaeth a Rheoli Tir