Unigolyn Graddedig Masnachol

£27,000

Transport for Wales (TFW)

Pontypridd

Ionawr 18, 2026

Graduate Scheme

Disgrifiad o'r Cwmni

Cyfle i fod yn chi. 

Cyfle i gael eich grymuso. 

Cyfle i fod yn un o raddedigion Trafnidiaeth Cymru. 

 

Unigolyn Graddedig Masnachol 

Lleoliad: Llys Cadwyn, Pontypridd 

Math o gontract: Cyfnod penodol o 22 mis 

Gall y swydd hon gynnig cyfleoedd ar gyfer gweithio’n hybrid ac yn hyblyg. 

 

Ein Cynllun Arweinwyr y Dyfodol i Raddedigion 

P’un a ydych chi’n pontio o fyd addysg neu eisiau datblygu eich sgiliau arwain, bydd ein cynllun i raddedigion yn eich helpu i sbarduno eich gyrfa a gwneud gwahaniaeth go iawn yng Nghymru. 

Beth fydd fy nghyfrifoldebau? 

Bydd yr Unigolyn Graddedig Masnachol yn cyfrannu at ddatblygu a chyflawni Prosiectau TrC yn y Gyfarwyddiaeth Fasnachol. Byddant yn cylchdroi ar draws meysydd busnes perthnasol, er mwyn datblygu dealltwriaeth ehangach o weithrediadau eu cyfarwyddiaeth. 

 

A oes unrhyw ofynion hanfodol? 

  •  Gradd/Gradd-brentisiaeth mewn maes perthnasol fel Astudiaethau Busnes, Rheoli Busnes, Rheoli Gweithrediadau neu faes tebyg.
  •  Sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac ar bapur.
  •  Gallu meithrin perthynas gadarnhaol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
  •  Dangos eich bod yn cyd-fynd â’n rhinweddau a’n gwerthoedd craidd i raddedigion, sydd i’w gweld isod.

Dylech gynnwys eich holl gymwysterau perthnasol, yn enwedig y rhai a restrir yn y meini prawf hanfodol a dymunol ar gyfer y swydd. Mae’n bosibl na fyddwn yn gallu ystyried eich cais fel arall. 

Sylwch, i fod yn gymwys ar gyfer ein Cynllun i Raddedigion, mae’n rhaid bod llai na 2 flynedd wedi bod ers i chi raddio pan fyddwch yn gwneud cais, a rhaid ichi fod wedi graddio cyn i’r cynllun ddechrau. Bydd angen i chi fod ar gael i ddechrau’r Cynllun i Raddedigion ddechrau mis Medi 2026. 

Sylwch: mae’n rhaid i chi fod â’r hawl berthnasol i weithio yn y DU os cewch eich penodi i’r swydd. Dydyn ni ddim yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd. 

Sgiliau Cymraeg 

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl sy’n gallu sgwrsio neu ysgrifennu yn Gymraeg, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon. 

Y Camau Nesaf 

Ai dyma’r cyfle iawn i chi? Cymerwch gip ar y disgrifiad swydd sydd wedi’i atodi i gael gwybod mwy neu cysylltwch ag aelod o’n tîm Talent Gynnar i gael sgwrs. 

Diwrnod Asesu 

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn ni’n eich gwahodd chi i ddiwrnod asesu cyfeillgar a hamddenol, gyda chyfweliad terfynol i ddilyn. 

Cyfle Cyfartal 

Ddim yn siŵr a ydych chi’n bodloni pob gofyniad? Mae ymchwil yn dangos y gallai rhai pobl, gan gynnwys menywod a phobl o grwpiau lleiafrifol, oedi cyn ymgeisio oni bai eu bod yn teimlo’n gwbl gymwys. Os yw’r cyfle hwn o ddiddordeb i chi a’ch bod yn bodloni’r gofyniad hanfodol, sef bod â gradd berthnasol, rydyn ni’n eich annog i wneud cais – gallai eich sgiliau, eich profiad a’ch safbwynt unigryw chi fod yn berffaith i ni.  

 

Rydyn ni am i bawb deimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu cynnwys a’u gwerthfawrogi. Mae tîm amrywiol, sy’n cynrychioli pob rhan o gymdeithas, yn ein helpu i gyflawni hyd eithaf ein gallu. Rydyn ni’n chwilio am bobl dalentog, waeth beth fo’u cefndir. 

Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol neu gymorth ychwanegol arnoch chi yn ystod y broses ymgeisio neu asesu, cofiwch roi gwybod i ni. Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi ar bob cam. 

Gwybodaeth Arall 

Yn TrC, rydyn ni’n awyddus i weld eich sgiliau, eich potensial, a’ch brwdfrydedd. Er ein bod yn llwyr gefnogi defnyddio deallusrwydd artiffisial fel adnodd dysgu, mae arnon ni eisiau asesu ymgeiswyr ar sail eu galluoedd eu hunain. Felly, rhaid cwblhau ceisiadau heb gymorth deallusrwydd artiffisial. Os byddwn ni’n canfod cynnwys a baratowyd â deallusrwydd artiffisial, ni fyddwn yn gallu ystyried y cais, yn anffodus. 

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y dyddiad cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl. 

Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau wedi dod i law. 

 

Unigolyn Graddedig Masnachol