Unigolyn Graddedig Rheoli Gweithrediadau Cwsmeriaid

£27,000

Transport for Wales (TFW)

Ionawr 18, 2026

Graduate Scheme

Disgrifiad o'r Cwmni

Cyfle i fod yn chi. 

Cyfle i gael eich grymuso. 

Cyfle i fod yn un o raddedigion Trafnidiaeth Cymru. 

 

Unigolyn Graddedig Rheoli Gweithrediadau Cwsmeriaid  

Lleoliad: Amwythig 

Math o gontract: Cyfnod penodol o 22 mis 

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio shifftiau dros 5 diwrnod, gan gynnwys ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. 

 

Ein Cynllun Arweinwyr y Dyfodol i Raddedigion 

P’un a ydych chi’n pontio o fyd addysg neu eisiau datblygu eich sgiliau arwain, mae ein cynllun i raddedigion wedi’i lunio i’ch helpu i sbarduno eich gyrfa a gwneud gwahaniaeth go iawn yng Nghymru. 


Beth fydd fy nghyfrifoldebau? 

Bydd yr Unigolyn Graddedig Rheoli Gweithrediadau Cwsmeriaid yn cefnogi Rheolwr yr Orsaf a’r Pennaeth Gweithrediadau Cwsmeriaid drwy gyfrannu at ddatblygu a darparu ein tîm Gweithrediadau Cwsmeriaid, gan ddangos sgiliau darparu gwasanaeth i gwsmeriaid, ar yr un pryd â chynnal y safonau diogelwch uchel a ddisgwylir ar draws ein rhwydwaith. 

 

A oes unrhyw ofynion hanfodol? 

  •  Gradd mewn Rheoli Busnes, neu radd berthnasol arall.
  • Y gallu i gynhyrchu adroddiadau cywir a chryno. 
  • Ffocws uchel ar ragoriaeth a darpariaeth mewn gwasanaethau cwsmeriaid.
  • Ymwybyddiaeth dda o bwysigrwydd diogelwch yng nghyd-destun gweithrediadau cwsmeriaid.
  • Meddu ar drwydded yrru lawn ddilys.
  •  Dangos eich bod chi’n cyd-fynd â’n rhinweddau a’n gwerthoedd craidd i raddedigion, sydd i’w gweld isod.

  

Dylech gynnwys eich holl gymwysterau perthnasol, yn enwedig y rhai a restrir yn y meini prawf hanfodol a dymunol ar gyfer y swydd. Mae’n bosibl na fyddwn yn gallu ystyried eich cais fel arall. 


Yn ystod y cyfnod recriwtio ar gyfer y swydd hon, efallai y gofynnir i chi gynnal prawf dosbarthu i nodi cymwyseddau posibl yn y maes hwn. Sylwch mai dim ond rhoi gwybod i chi a allwch wneud gwaith dosbarthu fel rhan o’ch cynllun Graddedigion fydd canlyniad y prawf hwn ac ni fydd yn effeithio ar y broses ddethol.   


Sylwch, i fod yn gymwys ar gyfer ein Cynllun i Raddedigion, mae’n rhaid bod llai na 2 flynedd wedi mynd heibio ers i chi raddio pan fyddwch yn gwneud cais, neu fod wedi graddio erbyn y bydd y cynllun yn dechrau. Bydd angen i chi fod ar gael i ddechrau’r Cynllun i Raddedigion ddechrau mis Medi 2026. 

Bydd gofyn i chi gael archwiliad meddygol Diogelwch Personol ar y Cledrau i benderfynu a ydych chi’n addas ar gyfer y swydd. 

Unigolyn Graddedig Rheoli Gweithrediadau Cwsmeriaid