Cyngor Gwynedd – Darogan
Infomatic with hills in background

Cyngor Gwynedd

Local Council

Caernarfon

Cyngor Gwynedd logo

Addysg. Iechyd. Gofal cymdeithasol. Datblygu economaidd. Tai. Yr amgylchedd. Diwylliant. Dim ond ychydig o enghreifftiau yw’r rhain o’r ystod o gyfrifoldebau a roddir ar lywodraethau lleol. Mae llywodraeth effeithiol felly yn gorwedd ar weithluoedd arloesol, medrus a phrofiadol; ac yn hyn o beth, mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i groesawu a datblygu cenhedlaeth newydd o arbenigwyr maes, i arwain ac arloesi, ac i wella bywydau pobl Gwynedd.

Cynllun Yfory yw cynllun graddedigion Cyngor Gwynedd. Mae’n gyfle unigryw i ymuno â’r 6,000 o staff yn y cyngor sy’n rhedeg rhyw 100 cant o wasanaethau ar gyfer y 120,000 o bobl sy’n galw Gwynedd yn gartref iddynt. Wrth ymuno â’r cynllun, byddwch yn datblygu arbenigedd maes-benodol ac yn cael profiad ymarferol o’r gwaith, y sefydliadau a’r systemau sy’n sail i’r gwasanaethau a gynigir gan y cyngor. Ers dechrau’r cynllun yn 2017, mae’r cyngor wedi recriwtio nifer o hyfforddeion gwahanol, gan gynnwys:

Hyfforddai Proffesiynol Arwain a Rheoli.

Hyfforddai Proffesiynol Arwain a Rheoli – Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Hyfforddai Proffesiynol Rheolaeth Cefn Gwlad.

Hyfforddai Caffael.

Syrfëwr Eiddo dan Hyfforddiant.

Hyfforddai Lles Graddedig.

Hyfforddai Cyfreithiol.

Hyfforddai Proffesiynol Cyfieithu.

Mae’r cynllun graddedigion yn ymestyn dros ddwy flynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd hyfforddeion yn gweithio ar brosiectau rheoli lefel uchel o fewn y cyngor, tra hefyd yn astudio’n rhan-amser ar gyfer gradd Meistr bwrpasol – wedi’i hariannu’n llawn gan y cyngor. Mae Cynllun Yfory felly yn gyfle gwych i ddatblygu’r sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau craidd i ddilyn gyrfa lwyddiannus yng Nghyngor Gwynedd a’r sector cyhoeddus ehangach.

Rhaid i bob ymgeisydd gyrraedd y meini prawf canlynol:

Wedi cyflawni (neu’n debygol o gyflawni) gradd 2:2 neu uwch.

Rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Wedi ennill TGAU mewn Mathemateg, Cymraeg, Saesneg a Gwyddoniaeth gradd C neu uwch.

Wedi dangos ymrwymiad i lywodraeth leol a/neu gymunedau lleol.

Rhagor o wybodaeth am Cynllun Yfory.

Cyngor Gwynedd